Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Medi 2018

 

 

Amserlen ar gyfer ystyried cyllideb 2019 - 2020

1.    Ar 6 Gorffennaf 2018, ysgrifennodd Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Busnes gyda dyddiadau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2019-20, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2.

2.    Yn unol â Rheol Sefydlog 20.4, mae’r Pwyllgor Busnes wedi ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllideb ac wedi llunio’r amserlen a ganlyn er mwyn ystyried cyllideb 2019-20.

 

Dyddiad

 

 

Gosod cynigion cyllideb amlinellol ar gyfer y Llywodraeth

 

2 Hydref 2018

Gosod cynigion cyllideb manwl ar gyfer y Llywodraeth

23 Hydref 2018

Dyddiad cau i’r Pwyllgor Cyllid adrodd ar y cynigion cyllideb amlinellol ar gyfer y Llywodraeth

 

27 Tachwedd 2018

Dyddiad cau i’r pwyllgorau eraill ystyried y cynigion cyllideb manwl

 

27 Tachwedd 2018

Cyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol

 

18 Rhagfyr 2018